1 auryches y kay mangoed
2 O ryw bedwennvrig erioed
3 Ennill ym vydd goedwydd ged
4 O chawn elw i chyniled
5 Er achub crefft aurychayth
6 I eveil o ddail y ddayth
7 [57] ac ennill clod ac annerch
8 ac ai llaw sowduriaw serch
9 ai neddeir vy aurgrair vwyn
10 y nyddawdd vedw yn addwyn
11 am kein euryches om kawdd
12 Em kenedl a amkanawdd
13 kyvlvniaw kay o vlaynionn
14 kadair o vrig koed or vronn
15 koedyn bach o rwym keudawd
16 krefft hyspys rrwng bys a bawd
17 kanwell yw no chay kainwefr
18 kay o wallt penn bedwenn befr
19 kayog wyf o vrig gwyal
20 kayav y deav a dal
21 kywir y keidw ym hiroes
22 kywair wyf or kay a roes
23 vynghay bedw da y kedwir
24 Or koed a wnai hoed yn hir
25 [58] vy mvdd yw nys maddevaf
26 vymywyd ar hyd yr haf
27 vy mab vymrawd didlawdvoes
28 vymedw rrwym vymyd ai roes
29 Golygawd grefft briawd brudd
30 gem Grefft irvedw oedd gay
morvvdd
31 Dellt yw vymronn rrylonn rrvs
32 Dan gay bedw dyn gwybodus
33 gwaith kymen ar vedwenn vad
34 gweddeiddio gwydd a wyddiad
35 gwell i hamkan no Ianynn
36 Eurych treth vynych a vynn
37 gwydd meinion a gyssonai
38 gwynn i vyd y gwann a vai
39 aurai vy llaw ar vy lles
40 ar vchaf i auryches
Dauit ap guili'